Gweithio i Agenda Cymreig
Mae'r 42 Bwrdd Prawf yng Nghymru a Lloegr yn atebol yn ffurfiol I'r Ysgrifennydd Gwladol drwy'r Cyfarwyddwr Cenedlaethol sy'n gyfrifol yn y pen draw am eu perfformiad. Er hynny, yn rhinwedd ei gyfrifoldebau datganoledig am nifer o faterion polisi cymdeithasol sy'n cael effaith ar achosion troseddu yng Nghymru ac yn eu lliniaru, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (CCC) wedi dod yn brif fudd-ddeilliad yn y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (GPG). I adlewyrchu'r eality hwn, mae swyddogaeth newydd y Rheolwr Rhanbarthol yn canolbwyntio ar yr angen I'r Cyfarwyddwr Cenedlaethol, y Gyfarwyddiaeth yn Llundain a'r Ardaloedd yng Nghymru I ddod yn gysylltiedig gyda pholisïau a mentrau'r Cynulliad Cenedlaethol sydd wedi eu hanelu at leihau troseddu ac at ddiogelwch y gymuned.
Mae cyflawniadau prawf yng Nghymru yn gwneud cyfraniadau uniongyrchol tuag at amcanion, targedau a mentrau cydweithredol CCC. Mae pob troseddwr sy'n cael ei ddiddyfnu oddi ar gyffuriau yn sgîl ei gydsyniad â Gorchymyn Profi am Gyffuriau a Thriniaeth, sy'n cael ei symud oddi ar restr pobl digartref yr Awdurdod Lleol, sy'n cael cymorth I ennill dyfarniad Sgiliau Sylfaenol neu sy'n cael mynediad at hyfforddiant neu'n dod o hyd I waith tra'I f/bod dan oruchwyliaeth y Gwasanaeth Prawf yn gwneud cyfraniad o'r fath.
Yn ogystal â hyn, mae arbenigedd y gwasanaeth Prawf wrth asesu a rheoli troseddwyr anodd, sydd weithiau'n beryglus, mae ein sgiliau wrth adnabod ffactorau criminogenaidd sy'n cyfrannu tuag at yrfaoedd troseddu unigolion a'n cyfraniad unigryw tuag at ddatrys, erlyn, dedfrydu a chosbi troseddwyr yng Nghymru yn awgrymu potensial y gallwn wneud cyfraniad arwyddocaol tuag at ansawdd polisi a strategaeth CCC.
Mae hon yn her gyffrous a heriol I'r Ardaloedd Prawf yng Nghymru. Serch hynny, mewn partneriaeth gyda phrif gyfranwyr eraill megis yr Heddlu a'r gwasanaeth Carchar, y Cyfarwyddwr Lleihau Troseddu, Prif Weithredwyr a'r sector gwirfoddol sy'n tyfu, mae cyfle gwirioneddol I'r GPC wneud gwahaniaeth I ansawdd bywyd yng Nghymru.
Ian Fox, Rheolwr Rhanbarthol Cymru, Mai 2002
Ein busnes yng Nghymru
Mae'r pedwar gwasanaeth prawf yng Nghymru yn delio gyda throseddwyr o'u ymddangosiadau cyntaf yn y llys hyd at yr adeg y byddant yn cwblhau eu dedfrydau. Ein nod yw lleihau aildroseddu ac amddiffyn y cyhoedd.
Rydym yn gweithio yn ôl safonau cenedlaethol ac yn atebol i'r Swyddfa Gartref. Rydym yn gweithio yn y llysoedd, mewn carcharau ac yn y gymuned. Yn y llysoedd troseddau rydym yn cynnig cyngor arbenigol ar opsiynau dedfrydu. Rydym yn gweithio gyda charcharorion yn ystod eu dedfryd ac ar ôl iddynt gael eu rhyddhau ac rydym hefyd yn goruchwylio troseddwyr sydd wedi cael dedfryd o orchymyn ailsefydlu cymunedol neu orchymyn cosb gymunedol.
Mae staff prawf yn herio ymddygiad ac agweddau troseddwyr er mwyn peri newidiadau gwirioneddol ym mywydau pobl. Ein prif amcan yw diogelu'r cyhoedd. Rydym yn gwneud asesiadau gofalus o risg i'r cyhoedd ac yn gweithio'n agos gyda mudiadau eraill er mwyn atal aildroseddu.
Mae troseddwyr sy'n torri amodau eu gorchmynion, yn cynnwys methu â throi i fyny ar gyfer apwyntiadau neu beidio â mynychu cyrsiau, yn cael eu hanfon yn ôl i'r llysoedd ac mae perygl y cânt eu hanfon i'r carchar.
Troseddwyr yng Nghymru - ychydig o ystadegau
Yn ystod unrhyw gyfnod, mae staff prawf yng Nghymru yn goruchwylio dros 12,000 o droseddwyr.
Wrth ddadansoddi sampl o adroddiadau cyn-dedfrydu, gwelwyd fod:
57% yn ddiwaith, o'i gymharu â 5.2% o'r boblogaeth yng Nghymru 43% yn dioddef problemau difrifol oherwydd alcohol neu gyffuriau 8% yn dioddef anawsterau iechyd meddwl 22% â phroblemau ariannol difrifol 25% heb gartrefi sicr
Camau Newydd Fframwaith Strategol 2001 - 2004 (370kb) Strategaeth Integredig ar gyfer y Gwasanaeth Prawf Cenediaethol dros Loegr a Chymru
Gyrfaoedd Yn Y Gwasanaeth Profiannaeth Cenedlaethol (1.4Mb)
Cyflawni Trwy Bobl (1.2Mb) Strategaeth rheoli pobl y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol 2002 hyd 2007
Calon y Ddawns (109kb) Strategaeth amrywiaeth ar gyfer y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol dros Gymru a Lloegr 2002 - 2006
|